xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(3) (fel y’i mewnosodwyd ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C2Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2006 c. 21, a. 29 (fel e'i amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 10; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C3Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 560(6) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(7); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C4Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C5Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 484(7) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C6Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(13) (fel e'i amnewid (C.) ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C7Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(1)(2) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C8Rhn. 2 Pnd. 2 excluded (20.2.2014) gan 1996 c. 56, Atod. 1 para. 6(4) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(8); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C9Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(b) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C10Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2005 c. 18, a. 114(8)(c) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 8(3)(c); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C11Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (1.4.2015) gan Deddf Addysg (Cymru) 2014 (anaw 5), aau. 20, 50(4) (ynghyd ag a. 20(3)); O.S. 2015/29, ergl. 3(j)
C12Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (20.2.2014) gan 1998 c. 31 s. 89C(2)(a) (wedi ei amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 anaw 1, a. 100(4), Atod. 5 para. 4(5); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C13Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (20.2.2014) gan 1998 c. 31 s. 89C(2)(a) (wedi ei amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 5(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.
(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.
(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 29 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)
(1)Rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi i Weinidogion Cymru, ac unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.
(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol sicrhau hefyd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod personau sy’n gweithio yn yr ysgol yn gwneud yr un fath.
(3)Y personau penodedig yw—
(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;
(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Bennod hon;
(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4A. 30 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)
(1)Ar bob adeg resymol mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2)—
(a)hawl i fynd i mewn i fangre’r awdurdod lleol o dan sylw ac unrhyw ysgol a gynhelir ganddo;
(b)hawl i arolygu unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod neu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r awdurdod neu unrhyw ysgol o’r fath, y mae’r person yn barnu eu bod yn berthnasol i’r modd y mae swyddogaethau yn cael eu harfer gan y person o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ac i wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau o’r fath.
(2)Y personau canlynol sy’n dod o fewn yr is-adran hon—
(a)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 24 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth ar bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo gydag ef i’r contract neu’r trefniant arall sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd;
(b)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25;
(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 26;
(d)y person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 26.
(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill, mae person (“P”)—
(a)yn meddu ar yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill sydd o dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a
(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol roi unrhyw gymorth y mae ar P angen rhesymol amdano (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trefnu bod gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu ei chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—
(i)y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;
(ii)unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu.
(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.
(5)Yn yr adran hon mae’r termau “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6A. 31 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)