Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Pwerau ymyrrydLL+C

23Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd o dan y Bennod hon â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw’r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at yr awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(6)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5).

(7)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(3) (fel y’i mewnosodwyd ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C2Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2006 c. 21, a. 29 (fel e'i amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 10; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C3Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 560(6) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(7); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C4Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C5Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 484(7) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C6Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(13) (fel e'i amnewid (C.) ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C7Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(1)(2) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C8Rhn. 2 Pnd. 2 excluded (20.2.2014) gan 1996 c. 56, Atod. 1 para. 6(4) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(8); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C9Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(b) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C10Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2005 c. 18, a. 114(8)(c) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 8(3)(c); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 23 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

24Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghoriLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, i ddarparu i’r awdurdod neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo (neu’r ddau ohonynt), wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4A. 24 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

25Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdodLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol neu i unrhyw un neu rai o swyddogion yr awdurdod y maent yn credu eu bod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

[F1(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan y person penodedig.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6A. 25 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

26Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebaiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

(3)Os yw cyfarwyddyd wedi ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

[F2(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8A. 26 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

27Pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harferLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 25 neu 26 ymwneud â chyflawni swyddogaethau addysg yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus i gyfarwyddyd ymwneud â swyddogaethau addysg nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10A. 27 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

28Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12A. 28 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)