RHAN 2SAFONAU
PENNOD 2YMYRRYD MEWN AWDURDODAU LLEOL
Y seiliau dros ymyrryd
21Y seiliau dros ymyrryd
At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg fel a ganlyn—
SAIL 1 -Mae’r awdurdod lleol wedi methu, neu’n debyg o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy’n swyddogaeth addysg.
SAIL 2 - Mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer swyddogaeth addysg.
SAIL 3 - Mae’r awdurdod lleol yn methu, neu’n debyg o fethu, â chyflawni swyddogaeth addysg yn ôl safon ddigonol.
Hysbysiad rhybuddio
22Hysbysiad rhybuddio
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
a
y seiliau dros ymyrryd;
b
y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;
c
y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;
d
y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);
e
y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau gofynnol.
Pwerau ymyrryd
23Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd
1
Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd o dan y Bennod hon â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a
b
os yw’r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—
a
bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon, neu
b
bod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.
4
Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.
5
Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at yr awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.
6
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5).
7
Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.
24Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, i ddarparu i’r awdurdod neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo (neu’r ddau ohonynt), wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur.
3
Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
4
Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.
25Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol neu i unrhyw un neu rai o swyddogion yr awdurdod y maent yn credu eu bod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.
3
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
26Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni gan awdurdod lleol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.
3
Os yw cyfarwyddyd wedi ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.
27Pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 25 neu 26 ymwneud â chyflawni swyddogaethau addysg yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus i gyfarwyddyd ymwneud â swyddogaethau addysg nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.
28Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—
a
rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu
b
cymryd unrhyw gamau eraill.
Darpariaethau atodol
29Cyfarwyddiadau
1
Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.
2
Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.
3
O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
c
gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
30Dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi i Weinidogion Cymru, ac unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.
2
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol sicrhau hefyd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod personau sy’n gweithio yn yr ysgol yn gwneud yr un fath.
3
Y personau penodedig yw—
a
unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;
b
unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Bennod hon;
c
unrhyw berson sy’n cynorthwyo—
i
Gweinidogion Cymru, neu
ii
person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).
31Pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
Ar bob adeg resymol mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2)—
a
hawl i fynd i mewn i fangre’r awdurdod lleol o dan sylw ac unrhyw ysgol a gynhelir ganddo;
b
hawl i arolygu unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod neu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r awdurdod neu unrhyw ysgol o’r fath, y mae’r person yn barnu eu bod yn berthnasol i’r modd y mae swyddogaethau yn cael eu harfer gan y person o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ac i wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau o’r fath.
2
Y personau canlynol sy’n dod o fewn yr is-adran hon—
a
y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 24 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth ar bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo gydag ef i’r contract neu’r trefniant arall sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd;
b
y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25;
c
Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 26;
d
y person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 26.
3
Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill, mae person (“P”)—
a
yn meddu ar yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill sydd o dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a
b
yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol roi unrhyw gymorth y mae ar P angen rhesymol amdano (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trefnu bod gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu ei chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—
i
y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;
ii
unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu.
4
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.
5
Yn yr adran hon mae’r termau “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.