RHAN 2SAFONAU
PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION
I132Ystyr “awdurdod ysgol”
Yn y Bennod hon ystyr “awdurdod ysgol” yw—
a
awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau addysg;
b
corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
c
pennaeth ysgol a gynhelir.
I233Pŵer i ddyroddi canllawiau gwella ysgolion
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod ysgol ynglyn â’r ffordd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu gan unrhyw ysgol a gynhelir y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â hi (“canllawiau gwella ysgolion”).
2
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
dyroddi canllawiau gwella ysgolion i awdurdodau ysgolion yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau penodol;
b
dyroddi canllawiau gwahanol ynghylch gwella ysgolion i wahanol awdurdodau ysgolion;
c
diwygio neu ddirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ganllawiau pellach;
d
dirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau wedi eu cyfeirio atynt.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny, yn datgan—
a
eu bod yn cael eu dyroddi, neu ei fod yn cael ei ddyroddi, o dan yr adran hon, a
b
y dyddiad y deuant neu y daw yn weithredol arno.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny.
I334Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1
Cyn dyroddi neu ddiwygio canllawiau gwella ysgolion, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r canllawiau—
a
awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau yn debyg o effeithio arnynt,
b
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac
c
unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â’u dyroddi ar ffurf y drafft hwnnw.
4
Os na chaiff unrhyw benderfyniad ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau (neu’r canllawiau diwygiedig) ar ffurf y drafft.
5
O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—
a
mae’n dechrau ar y diwrnod y mae’r drafft yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a
b
nid yw’n cynnwys unrhyw bryd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.
6
Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o ganllawiau arfaethedig neu ganllawiau diwygiedig arfaethedig rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
I435Dyletswydd i ddilyn canllawiau gwella ysgolion
1
Rhaid i awdurdod ysgol ddilyn y llwybr a nodir mewn canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir iddo yn unol â’r Bennod hon pan fydd yn arfer pŵer neu ddyletswydd (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol); ond mae hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon.
2
Nid yw awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd—
a
â bod yr awdurdod yn meddwl bod rheswm da iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,
b
â’i fod yn penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac
c
â bod effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol ag adran 36.
3
Nid yw awdurdod ysgol sy’n gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu’n bennaeth arni yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd â bod—
a
y corff llywodraethu’n meddwl bod rheswm da iddo ef neu’r pennaeth beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,
b
y corff llywodraethu’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau neu rai’r pennaeth mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac
c
effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 36.
4
Pan fo is-adran (2) neu (3) yn gymwys yn achos awdurdod ysgol—
a
rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr a nodir yn y datganiad polisi, a
b
dim ond i’r graddau nad yw pwnc y canllawiau gwella ysgolion wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1).
5
Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (4) yn gymwys i awdurdod ysgol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori penodol o achos.
I536Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol
1
Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 35(2) neu (3) nodi—
a
sut mae’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu (yn ôl y digwydd) yn cynnig y dylai swyddogaethau gael eu harfer yn wahanol i’r llwybr a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, a
b
rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.
2
Caiff awdurdod neu gorff sydd wedi dyroddi datganiad polisi—
a
dyroddi datganiad polisi diwygiedig;
b
rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.
3
Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi) ddatgan—
a
ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 35(2) neu (3) (yn ôl y digwydd), a
b
y dyddiad y mae i ddod yn weithredol arno.
4
Rhaid i’r awdurdod neu’r corff sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—
a
trefnu bod datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;
b
anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.
I637Cyfarwyddiadau
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod ysgol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debyg o wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ysgol y mae’r datganiad polisi yn ymwneud â hi.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod ysgol i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau yn unol â’r canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir i’r awdurdod yn unol â’r Bennod hon.
3
Rhaid i awdurdod ysgol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef.
4
Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol.
5
O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo gael ei roi’n ysgrifenedig;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
c
gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.