RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 1COD TREFNIADAETH YSGOLION

38Cod Trefniadaeth Ysgolion

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod am drefniadaeth ysgolion (“y Cod”), a chaniateir iddynt ei ddiwygio o dro i dro.

2

Mae’r Cod i gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r personau canlynol o dan y Rhan hon—

a

Gweinidogion Cymru;

b

awdurdodau lleol;

c

cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

d

personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

3

Caiff y Cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill.

4

Rhaid i’r personau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2), wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon—

a

gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a gynhwysir yn y Cod, a

b

rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gynhwysir ynddo.

5

Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (4) yn gymwys hefyd i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan—

a

Gweinidogion Cymru,

b

awdurdod lleol,

c

corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu

d

personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y Cod sydd mewn grym am y tro.

7

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar wahân (drwy gyfrwng codau ar wahân) mewn perthynas â swyddogaethau gwahanol o dan y Rhan hon sy’n perthyn i’r personau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

8

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “y Cod” neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon yn cael effaith, mewn perthynas â chod ar wahân, fel cyfeiriadau at y cod hwnnw neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon y mae’n ymwneud â hwy.

39Llunio a chymeradwyo Cod Trefniadaeth Ysgolion

1

Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 38, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig)—

a

pob awdurdod lleol,

b

corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir,

c

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac

d

unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

3

Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y drafft hwnnw.

4

Os na chaiff unrhyw benderfyniad o’r fath ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

a

rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

b

daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

5

O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—

a

mae’n dechrau ar y diwrnod y caiff y drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

b

nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

6

Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god arfaethedig rhag cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

7

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god arfaethedig yn cynnwys cod diwygiedig arfaethedig.

8

Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy ymgynghoriad yr ymgymerwyd ag ef cyn i’r Rhan hon ddod i rym er bod y cod a ddyroddir o dan adran 38(1) yn cymryd i ystyriaeth (i unrhyw raddau) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon.