RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Newidiadau categori
I1I445Cynigion i newid categori ysgol
1
Caiff corff llywodraethu ysgol gymunedol wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir.
2
Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).
3
Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ond gweler is-adran (5)).
4
Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).
5
Ni chaniateir gwneud cynigion i ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol neu ysgol wirfoddol sydd â chymeriad crefyddol ddod yn ysgol gymunedol.
I2I546Cyfyngiadau ar newid categori ysgol
1
Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caiff ysgol a gynhelir o fewn un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ddod yn ysgol o fewn un arall o’r categorïau hynny (ac eithrio ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig).
2
Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu’r ysgol yn bodloni Gweinidogion Cymru y byddai’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cyllido ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y cynigir bod y newid categori yn digwydd.
3
Ni chaiff ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig ddod yn ysgol gymunedol onid ydys wedi ymrwymo i unrhyw gytundeb trosglwyddo ac unrhyw gytundeb i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy’n ofynnol o dan Ran 3 o Atodlen 4.
I3I647Effaith newid categori
1
Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi unrhyw newid yng nghymeriad yr ysgol nac fel petai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw newid o’r fath gael ei wneud (gan gynnwys, yn benodol, unrhyw newid yng nghymeriad crefyddol yr ysgol).
2
Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi ysgol i sefydlu corff sefydledig, nac i ymuno neu ymadael â chorff o’r fath.