xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 2LL+CCYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Newidiadau categoriLL+C

45Cynigion i newid categori ysgolLL+C

(1)Caiff corff llywodraethu ysgol gymunedol wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).

(3)Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ond gweler is-adran (5)).

(4)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).

(5)Ni chaniateir gwneud cynigion i ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol neu ysgol wirfoddol sydd â chymeriad crefyddol ddod yn ysgol gymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 45 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)

46Cyfyngiadau ar newid categori ysgolLL+C

(1)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caiff ysgol a gynhelir o fewn un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ddod yn ysgol o fewn un arall o’r categorïau hynny (ac eithrio ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig).

(2)Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu’r ysgol yn bodloni Gweinidogion Cymru y byddai’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cyllido ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y cynigir bod y newid categori yn digwydd.

(3)Ni chaiff ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig ddod yn ysgol gymunedol onid ydys wedi ymrwymo i unrhyw gytundeb trosglwyddo ac unrhyw gytundeb i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy’n ofynnol o dan Ran 3 o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4A. 46 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)

47Effaith newid categoriLL+C

(1)Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi unrhyw newid yng nghymeriad yr ysgol nac fel petai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw newid o’r fath gael ei wneud (gan gynnwys, yn benodol, unrhyw newid yng nghymeriad crefyddol yr ysgol).

(2)Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi ysgol i sefydlu corff sefydledig, nac i ymuno neu ymadael â chorff o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6A. 47 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)