Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelirLL+C
40Cyfyngu ar sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelirLL+C
(1)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.
(2)Ni chaniateir i ysgol sefydledig nac ysgol arbennig sefydledig newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.
(3)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol a gynhelir gael ei therfynu.
(4)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid rheoleiddiedig mewn perthynas â’r math o ysgol o dan sylw. (5) Ni chaniateir i unrhyw newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid cymeriad crefyddol yr ysgol neu’n peri i ysgol gaffael neu golli ei chymeriad crefyddol.
(6)Mae is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 16(5) (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cau).
(7)Mae Atodlen 2 (sy’n disgrifio newidiadau rheoleiddiedig) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 40 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)
41Cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwdLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i sefydlu—
(a)ysgol gymunedol newydd, neu
(b)ysgol feithrin newydd a gynhelir.
(2)Caiff unrhyw berson wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4A. 41 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)
42Cynigion i newid ysgolion prif ffrwdLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—
(a)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol;
(b)gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig;
(c)i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 10, 11, 12 neu 13 o Atodlen 2 (cynyddu a lleihau capasiti) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig os nad oes gan yr ysgol honno gymeriad crefyddol;
(d)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol feithrin a gynhelir.
(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6A. 42 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)
43Cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwdLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i derfynu—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu
(b)ysgol feithrin a gynhelir.
(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i derfynu’r ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I8A. 43 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)
44Cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion arbennig cymunedolLL+C
Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—
(a)i sefydlu ysgol arbennig gymunedol newydd,
(b)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol o’r fath, neu
(c)i derfynu ysgol o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I10A. 44 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)