Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i resymoli lleoedd ysgol
57Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i gywiro darpariaeth ormodol neu annigonol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu fod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir—
(a)yn ardal awdurdod lleol, neu
(b)mewn rhan o’r ardal honno.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a
(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.
(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd,
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth iddynt roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo, ac
(c)pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.
(4)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion ymwneud ag ysgol a enwir.
58Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 57(2)
(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2).
(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) a rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.