RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION F1ADDYSGOL ARBENNIGF1DYSGU YCHWANEGOL

Annotations:
Amendments (Textual)
F1

Geiriau yn nheitl Rhn. 3 Pnd. 4 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

I1I8F264Ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau F2addysg arbennigF2anghenion dysgu ychwanegol

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) yw—

    1. a

      darpariaeth addysg i blant sy’n perthyn i ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, mewn ysgol a gynhelir gan un o’r awdurdodau hynny, neu

    2. b

      darpariaeth a wneir gan ddau awdurdod lleol neu fwy i nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi gan un o’r awdurdodau—

      1. i

        i’r llall neu’r lleill, neu

      2. ii

        i un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill;

  • F3ystyr “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (anghenion addysgol arbennig).

  • F3ystyr “swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

I2I965Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu F4swyddogaethau addysg arbennigF4wyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r F5anghenion addysgol arbennigF5anghenion dysgu ychwanegol a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.

2

Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

I3I1066Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau F6addysg arbennigF6anghenion dysgu ychwanegol, mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Y cyfarwyddiadau yw—

a

bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;

b

bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;

c

bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—

i

y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a

ii

y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;

d

bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;

e

bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.

5

Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—

a

ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

b

ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

I4I1167Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 66

1

Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

3

Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66.

4

Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.

I5I1268Cynigion gan Weinidogion Cymru

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

a

Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a

b

naill ai—

i

cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

ii

yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

2

Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

3

Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

4

Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

a

at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a

b

at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

I6I1369Gwrthwynebiadau

1

Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 68.

2

Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi.

I7I1470Mabwysiadu cynigion

1

Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 69 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—

a

mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu

b

penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.

2

Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

3

Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl cael eu gwneud—

a

gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

b

yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

4

Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu o dan is-adran (1) ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (3)(b).