xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

84Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Cynllun yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys—

(a)cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn—

(i)gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;

(ii)gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(b)targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(c)adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer ei ardal.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gadw golwg ar ei gynllun, ac os yw’n angenrheidiol, ei ddiwygio.

(4)Wrth lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg neu gynllun diwygiedig, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)ei awdurdodau lleol cyfagos;

(b)pennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo;

(c)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo;

(d)pob sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn ei ardal;

(e)mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(f)personau rhagnodedig eraill.

(5)Os yw awdurdod lleol yn cynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â rheoliadau o dan adran 86, rhaid iddo ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw y tro nesaf y bydd yn llunio neu’n diwygio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 84 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2

85Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi llunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd,

(b)cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu

(c)gwrthod y cynllun a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.

(3)Os yw awdurdod lleol yn dymuno diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gydag addasiadau neu hebddynt.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn—

(a)addasu cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(b),

(b)llunio cynllun arall i gymryd lle cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(c), neu

(c)addasu cynllun diwygiedig yr awdurdod o dan is-adran (4).

(6)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.

(7)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4A. 85 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2

86Asesu’r galw am addysg cyfrwng CymraegLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd a sut i wneud asesiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6A. 86 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2

87Rheoliadau a chanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)ffurf a chynnwys cynllun;

(b)amseriad a hyd cynllun;

(c)cadw golwg ar gynllun a’i ddiwygio;

(d)ymgynghori yn ystod y broses o lunio cynllun a’i ddiwygio;

(e)cyflwyno cynllun i gael ei gymeradwyo;

(f)pryd a sut i gyhoeddi cynllun.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi dau neu fwy o awdurdodau lleol i lunio cydgynllun, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ran y modd y mae’n gymwys i gydgynlluniau.

(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8A. 87 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2