Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Cwnsela mewn ysgolionLL+C

92Gwasanaethau cwnsela annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol a phlant eraillLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol (“gwasanaeth cwnsela annibynnol”) i’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig sy’n cael addysg uwchradd—

(i)mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)mewn ysgolion eraill yn ei ardal;

(b)personau eraill sy’n perthyn i ardal yr awdurdod ac sydd wedi cyrraedd 11 oed ond nid 19 oed;

(c)disgyblion cofrestredig sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd olaf eu haddysg gynradd—

(i)mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)mewn ysgolion eraill yn ei ardal;

(d)y personau eraill sy’n cael addysg gynradd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(2)Wrth sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw—

(a)i’r egwyddor bod y gwasanaeth i fod yn annibynnol ar—

(i)corff llywodraethu neu berchennog arall ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg, a

(ii)rheolwyr ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg;

(b)i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu ar safle pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sy’n darparu addysg uwchradd (p’un a yw’n darparu mathau eraill o addysg hefyd ai peidio).

(4)Caiff awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu mewn mannau eraill.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i wasanaeth cwnsela annibynnol gael ei ddarparu mewn mannau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 92 mewn grym ar 1.4.2013, gweler a. 100(2)

93Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraillLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod i wneud y canlynol—

(a)crynhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela annibynnol y mae’n ei sicrhau o dan adran 92;

(b)darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) gynnwys arweiniad i grynhoi neu ddarparu gwybodaeth mewn modd, ac ar adeg, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol—

(a)darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig;

(b)darparu gwybodaeth mewn modd sydd, naill ai ar ei phen ei hun, neu mewn cyfuniad ag unrhyw wybodaeth arall, yn dynodi unrhyw unigolyn y mae’n ymwneud ag ef neu sy’n galluogi’r unigolyn hwnnw i gael ei ddynodi.

(4)Os nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth gopi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1), a

(b)rhaid i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth grynhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i darparu i’r awdurdod lleol mewn modd nad yw’n dynodi’r unigolion y mae’n ymwneud â hwy, nac yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu dynodi (naill ai ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall).

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 93 mewn grym ar 1.4.2013, gweler a. 100(2)