Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Dehongli’r AtodlenLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “yr awdurdod priodol” (“the appropriate authority”)—

    (a)

    pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 7, yw’r awdurdod lleol a roes yr hysbysiad, a

    (b)

    pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 14, yw Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal” (“a normally constituted governing body”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu);

  • ystyr “y cyfnod interim” (“the interim period”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r cyfnod y mae’r corff llywodraethu wedi ei gyfansoddi ynddo yn unol â’r Atodlen hon;

  • ystyr “llywodraethwyr presennol” (“existing governors”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r llywodraethwyr sy’n dal swydd yn union cyn y daw’r corff llywodraethu’n gyfansoddedig yn unol â’r Atodlen hon.

(2)Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)