xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM

Eithrio darpariaethau statudol penodolLL+C

13(1)Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu) yn gymwys mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim.

(2)Ond caniateir i reoliadau a wneir o dan adran 19(3)(f), (g), (i), (j), (k) neu (l) o Ddeddf Addysg 2002 (ac eithrio rheoliadau o dan adran 19(3)(l) sy’n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu) gael eu cymhwyso mewn perthynas â’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) drwy reoliadau.

(3)Nid yw offeryn llywodraethu’r ysgol yn cael effaith mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim i’r graddau y mae’n ymwneud â chyfansoddiad y corff llywodraethu.

(4)Yn ystod y cyfnod interim—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a

(b)ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 13 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)