Cau’r ysgolLL+C
14(1)Ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim, caiff y bwrdd gweithrediaeth interim, os gwêl yn dda, wneud adroddiad i’r awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn argymell y dylai’r ysgol gael ei therfynu, a chan ddatgan y rhesymau dros yr argymhelliad hwnnw.
(2)Ni chaiff y bwrdd gweithrediaeth interim—
(a)cyhoeddi o dan adran 43 gynigion i derfynu’r ysgol, na
(b)cyflwyno hysbysiad o dan adran 80.
(3)Bydd is-baragraff (4) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod interim—
(a)bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81 mewn perthynas â’r ysgol, neu
(b)bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu terfynu’r ysgol.
(4)Mae’r cyfnod interim i barhau tan y dyddiad terfynu, hyd yn oed pan fyddai’n dod i ben fel arall cyn y dyddiad hwnnw.
(5)Yn y paragraff hwn ystyr “y dyddiad terfynu” yw un o’r canlynol (yn ôl fel y digwydd)—
(a)y dyddiad y bydd cynigion i derfynu’r ysgol yn cael eu gweithredu arno o dan Ran 1 o Atodlen 3;
(b)y dyddiad y caiff yr ysgol ei therfynu arno o dan adran 80;
(c)y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)