xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16(1)Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—
(a)mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,
(b)mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac
(c)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)