Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Cynnydd yn nifer disgyblionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

19(1)Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—

    (a)

    19 Ionawr 2012;

    (b)

    y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

    (c)

    dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—

    (i)

    adran 48, 59, 68 neu 72, neu

    (ii)

    adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac

  • “y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—

    (a)

    pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a

    (b)

    ym mhob achos arall, 20.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)