ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG
RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR
I1I64
Mae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.
I2I75Ystod oedran
1
Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.
2
Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.
I3I86Darpariaeth chweched dosbarth
1
Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.
2
Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.
I4I97Cyfrwng iaith – addysg gynradd
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—
a
ysgolion cynradd,
b
ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac
c
ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.
2
Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn F1grwp oedran (neu grwpiau oedran)F1grŵp blwyddyn perthnasol (neu grwpiau blwyddyn perthnasol) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y F2grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny)F2grŵp blwyddyn perthnasol hwnnw (neu’r grwpiau blwyddyn perthnasol hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
3
Yn y paragraff hwn—
a
F3ystyr “grwp oedran” yw—
i
grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu
ii
grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);
F3ystyr “grŵp blwyddyn perthnasol” yw grŵp blwyddyn nad yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion eto wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y maent yn cyrraedd 11 oed ynddi;
b
nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.
1 | 2 |
---|---|
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |
I5I108Cyfrwng iaith – addysg uwchradd
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—
a
ysgolion uwchradd,
b
ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac
c
ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.
2
Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
3
Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.
1 | 2 |
---|---|
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl | Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl | Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl | Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgybl | Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl | Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl | Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |