Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

RHAN 2LL+CPOB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

4LL+CMae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Ystod oedranLL+C

5(1)Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.

(2)Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth chweched dosbarthLL+C

6(1)Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

(2)Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaith – addysg gynraddLL+C

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion cynradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn [F1grwp oedran (neu grwpiau oedran)] [F1grŵp blwyddyn perthnasol (neu grwpiau blwyddyn perthnasol)] mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y [F2grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny)] [F2grŵp blwyddyn perthnasol hwnnw (neu’r grwpiau blwyddyn perthnasol hynny)] fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn—

(a)[F3ystyr “grwp oedran” yw—

(i)grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu

(ii)grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);]

[F3ystyr “grŵp blwyddyn perthnasol” yw grŵp blwyddyn nad yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion eto wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y maent yn cyrraedd 11 oed ynddi;]

(b)nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.

TABL 1
12
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y GymraegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y SaesnegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y SaesnegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y GymraegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaith – addysg uwchraddLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion uwchradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.

TABL 2
12
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)