ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 3YSGOLION CYMUNEDOL, YSGOLION SEFYDLEDIG AC YSGOLION GWIRFODDOL

I1I109

Mae paragraffau 10 i 17 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol.

Newidiadau i fangreoedd

I2I1110

1

Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.

2

Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.

3

Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—

a

y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;

b

y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

c

dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—

i

adran 48, 59, 68 neu 72, neu

ii

adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

4

Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.

I3I1211

1

Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol os yw’r dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad yn dod o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn isbaragraff (2).

2

Pum mlynedd yw’r cyfnod ac mae’n dechrau ar ddyddiad gweithredu’r cynigion (neu’r dyddiad diweddaraf) sy’n dod o fewn paragraff 13 (lleihau capasiti ysgol).

3

Nid yw “ehangu” yn y paragraff hwn yn cynnwys ehangu dros dro.

I4I1312

Gwneud ehangu dros dro, a fyddai ar yr adeg y’i gwnaed wedi dod o fewn paragraff 10 (heblaw am y ffaith ei fod dros dro), yn ehangu parhaol.

I5I1413

Newid a wneir i fangre’r ysgol a fyddai’n lleihau capasiti’r ysgol, lle y byddai’r capasiti arfaethedig yn is na’r nifer uchaf o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad y lluniodd y cynigydd ei gynnig i wneud y newid arfaethedig.

I6I1514

At ddibenion paragraffau 10 i 13—

a

mae cyfeiriadau at gapasiti ysgol yn gyfeiriadau at nifer y disgyblion y gall yr ysgol drefnu lle ar eu cyfer fel a ddyfernir yn unol â chanllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, a

b

“ehangu dros dro” yw ehangu mangre ysgol y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

I7I1615Anghenion F1addysgol arbennigF1dysgu ychwanegol

1

Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F2addysgol arbennigF2dysgu ychwanegol.

2

Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F3addysgol arbennigF3dysgu ychwanegol, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

I8I1716Trefniadau derbyn

Cyflwyno trefniadau derbyn y mae adran 101(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (bandio disgyblion) yn gymwys iddynt.

I9I1817Darpariaeth fyrddio

1

Cyflwyno darpariaeth ar gyfer llety byrddio neu ei dirwyn i ben.

2

Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 50 o ddisgyblion neu ragor neu gan 50% neu ragor.