ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 4YSGOLION ARBENNIG

18

Mae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.

19Cynnydd yn nifer disgyblion

1

Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

2

Yn y paragraff hwn—

  • y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—

    1. a

      19 Ionawr 2012;

    2. b

      y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

    3. c

      dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—

      1. i

        adran 48, 59, 68 neu 72, neu

      2. ii

        adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac

  • “y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—

    1. a

      pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a

    2. b

      ym mhob achos arall, 20.

20Darpariaeth fyrddio

Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.

21Darpariaeth anghenion addysgol arbennig

Newid yn y math o anghenion addysgol arbennig y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.