ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

(Cyflwynwyd gan adran 40)

RHAN 1POB YSGOL A GYNHELIR

I1I271

Mae paragraffau 2 a 3 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir.

I2I282Trosglwyddo safle

Trosglwyddo ysgol i safle neu safleoedd newydd oni fyddai prif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd newydd o fewn 1.609344 cilomedr (un filltir) o brif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd presennol.

I3I293Ysgolion rhyw gymysg ac ysgolion un rhyw

1

Newid a wneir i ysgol fel a ganlyn—

a

bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw, neu

b

bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig.

2

At ddibenion y paragraff hwn mae ysgol i’w thrin fel un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig os yw trefn derbyn disgyblion o’r rhyw arall—

a

yn gyfyngedig i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol; a

b

heb fod yn fwy na 25% o nifer y disgyblion yn y grwp oedran a dan sylw sydd fel arfer yn yr ysgol.

RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

I4I304

Mae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.

I5I315Ystod oedran

1

Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.

2

Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

I6I326Darpariaeth chweched dosbarth

1

Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

2

Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

I7I337Cyfrwng iaith – addysg gynradd

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

a

ysgolion cynradd,

b

ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

c

ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

2

Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn F10grwp oedran (neu grwpiau oedran)F10grŵp blwyddyn perthnasol (neu grwpiau blwyddyn perthnasol) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y F11grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny)F11grŵp blwyddyn perthnasol hwnnw (neu’r grwpiau blwyddyn perthnasol hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

3

Yn y paragraff hwn—

a

F12ystyr “grwp oedran” yw—

i

grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu

ii

grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);

F12ystyr “grŵp blwyddyn perthnasol” yw grŵp blwyddyn nad yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion eto wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y maent yn cyrraedd 11 oed ynddi;

b

nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.

TABL 1

1

2

Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

I8I348Cyfrwng iaith – addysg uwchradd

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

a

ysgolion uwchradd,

b

ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

c

ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

2

Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

3

Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.

TABL 2

1

2

Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl

Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgybl

Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

RHAN 3YSGOLION CYMUNEDOL, YSGOLION SEFYDLEDIG AC YSGOLION GWIRFODDOL

I9I359

Mae paragraffau 10 i 17 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol.

Newidiadau i fangreoedd

I10I3610

1

Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.

2

Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.

3

Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—

a

y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;

b

y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

c

dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—

i

adran 48, 59, 68 neu 72, neu

ii

adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

4

Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.

I11I3711

1

Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol os yw’r dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad yn dod o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn isbaragraff (2).

2

Pum mlynedd yw’r cyfnod ac mae’n dechrau ar ddyddiad gweithredu’r cynigion (neu’r dyddiad diweddaraf) sy’n dod o fewn paragraff 13 (lleihau capasiti ysgol).

3

Nid yw “ehangu” yn y paragraff hwn yn cynnwys ehangu dros dro.

I12I3812

Gwneud ehangu dros dro, a fyddai ar yr adeg y’i gwnaed wedi dod o fewn paragraff 10 (heblaw am y ffaith ei fod dros dro), yn ehangu parhaol.

I13I3913

Newid a wneir i fangre’r ysgol a fyddai’n lleihau capasiti’r ysgol, lle y byddai’r capasiti arfaethedig yn is na’r nifer uchaf o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad y lluniodd y cynigydd ei gynnig i wneud y newid arfaethedig.

I14I4014

At ddibenion paragraffau 10 i 13—

a

mae cyfeiriadau at gapasiti ysgol yn gyfeiriadau at nifer y disgyblion y gall yr ysgol drefnu lle ar eu cyfer fel a ddyfernir yn unol â chanllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, a

b

“ehangu dros dro” yw ehangu mangre ysgol y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

I15I4115Anghenion F1addysgol arbennigF1dysgu ychwanegol

1

Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F2addysgol arbennigF2dysgu ychwanegol.

2

Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F3addysgol arbennigF3dysgu ychwanegol, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

I16I4216Trefniadau derbyn

Cyflwyno trefniadau derbyn y mae adran 101(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (bandio disgyblion) yn gymwys iddynt.

I17I4317Darpariaeth fyrddio

1

Cyflwyno darpariaeth ar gyfer llety byrddio neu ei dirwyn i ben.

2

Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 50 o ddisgyblion neu ragor neu gan 50% neu ragor.

RHAN 4YSGOLION ARBENNIG

I18I4418

Mae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.

I19I4519Cynnydd yn nifer disgyblion

1

Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

2

Yn y paragraff hwn—

  • y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—

    1. a

      19 Ionawr 2012;

    2. b

      y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

    3. c

      dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—

      1. i

        adran 48, 59, 68 neu 72, neu

      2. ii

        adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac

  • “y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—

    1. a

      pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a

    2. b

      ym mhob achos arall, 20.

I20I4620Darpariaeth fyrddio

Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.

I21I4721Darpariaeth anghenion F4addysgol arbennigF4dysgu ychwanegol

Newid yn y math o anghenion F5addysgol arbennigF5dysgu ychwanegol y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.

RHAN 5YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

I22I4822

Mae paragraffau 23 i 25 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion meithrin a gynhelir.

I23I4923Y man addysgu

1

Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.

2

Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “man addysgu” (“teaching space”) yw unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg feithrin ac eithrio’r canlynol—

    1. a

      unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer addysg disgyblion y mae eu hanghenion addysgol yn cael eu F6hasesu o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 a disgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan adran 324 o’r Ddeddf honnoF6penderfynu o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a disgyblion â chynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan y Ddeddf honno;

    2. b

      unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn y fath fodd nad yw’n addas at ddibenion addysgu cyffredinol;

    3. c

      unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn bennaf ar gyfer storio cyfarpar, offer neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu;

    4. d

      unrhyw ran o ardal y mae ei hangen ar gyfer symudiad disgyblion drwy’r ardal honno ac a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben hwnnw;

  • “ehangu dros dro” (“temporary enlargement”) yw ehangu man addysgu y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

I24I5024Anghenion F7addysgol arbennigF7dysgu ychwanegol

1

Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F8addysgol arbennigF8dysgu ychwanegol.

2

Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion F9addysgol arbennigF9dysgu ychwanegol, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

I25I5125Cyfrwng iaith

1

Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

2

Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

RHAN 6ATODOL

I26I5226Y pŵer i ddiwygio

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen hon.

2

Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 3 o’r Ddeddf hon.