Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

(Cyflwynwyd gan adran 40)

ATODLEN 2LL+CNEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

This schedule has no associated Explanatory Notes

RHAN 1LL+CPOB YSGOL A GYNHELIR

1LL+CMae paragraffau 2 a 3 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Trosglwyddo safleLL+C

2Trosglwyddo ysgol i safle neu safleoedd newydd oni fyddai prif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd newydd o fewn 1.609344 cilomedr (un filltir) o brif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd presennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Ysgolion rhyw gymysg ac ysgolion un rhywLL+C

3(1)Newid a wneir i ysgol fel a ganlyn—

(a)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw, neu

(b)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig.

(2)At ddibenion y paragraff hwn mae ysgol i’w thrin fel un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig os yw trefn derbyn disgyblion o’r rhyw arall—

(a)yn gyfyngedig i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol; a

(b)heb fod yn fwy na 25% o nifer y disgyblion yn y grwp oedran a dan sylw sydd fel arfer yn yr ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

RHAN 2LL+CPOB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

4LL+CMae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Ystod oedranLL+C

5(1)Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.

(2)Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth chweched dosbarthLL+C

6(1)Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

(2)Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaith – addysg gynraddLL+C

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion cynradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn [F1grwp oedran (neu grwpiau oedran)] [F1grŵp blwyddyn perthnasol (neu grwpiau blwyddyn perthnasol)] mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y [F2grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny)] [F2grŵp blwyddyn perthnasol hwnnw (neu’r grwpiau blwyddyn perthnasol hynny)] fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn—

(a)[F3ystyr “grwp oedran” yw—

(i)grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu

(ii)grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);]

[F3ystyr “grŵp blwyddyn perthnasol” yw grŵp blwyddyn nad yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion eto wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y maent yn cyrraedd 11 oed ynddi;]

(b)nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.

TABL 1
12
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y GymraegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y SaesnegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y SaesnegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y GymraegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaith – addysg uwchraddLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion uwchradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.

TABL 2
12
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

RHAN 3LL+CYSGOLION CYMUNEDOL, YSGOLION SEFYDLEDIG AC YSGOLION GWIRFODDOL

9LL+CMae paragraffau 10 i 17 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I18Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Newidiadau i fangreoeddLL+C

10(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.

(2)Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.

(3)Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;

(b)y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

(c)dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—

(i)adran 48, 59, 68 neu 72, neu

(ii)adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(4)Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I20Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

11(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol os yw’r dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad yn dod o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn isbaragraff (2).

(2)Pum mlynedd yw’r cyfnod ac mae’n dechrau ar ddyddiad gweithredu’r cynigion (neu’r dyddiad diweddaraf) sy’n dod o fewn paragraff 13 (lleihau capasiti ysgol).

(3)Nid yw “ehangu” yn y paragraff hwn yn cynnwys ehangu dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I22Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

12Gwneud ehangu dros dro, a fyddai ar yr adeg y’i gwnaed wedi dod o fewn paragraff 10 (heblaw am y ffaith ei fod dros dro), yn ehangu parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I24Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

13Newid a wneir i fangre’r ysgol a fyddai’n lleihau capasiti’r ysgol, lle y byddai’r capasiti arfaethedig yn is na’r nifer uchaf o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad y lluniodd y cynigydd ei gynnig i wneud y newid arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I26Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

14At ddibenion paragraffau 10 i 13—

(a)mae cyfeiriadau at gapasiti ysgol yn gyfeiriadau at nifer y disgyblion y gall yr ysgol drefnu lle ar eu cyfer fel a ddyfernir yn unol â chanllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, a

(b)“ehangu dros dro” yw ehangu mangre ysgol y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I28Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Anghenion [F4addysgol arbennig] [F4dysgu ychwanegol] LL+C

15(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F5addysgol arbennig] [F5dysgu ychwanegol].

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F6addysgol arbennig] [F6dysgu ychwanegol], newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Diwygiadau Testunol

F4Geiriau yn mhennawd Atod. 2 para. 15 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F5Geiriau yn Atod. 2 para. 15(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F6Geiriau yn Atod. 2 para. 15(2) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(iii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I30Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Trefniadau derbynLL+C

16Cyflwyno trefniadau derbyn y mae adran 101(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (bandio disgyblion) yn gymwys iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I32Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth fyrddioLL+C

17(1)Cyflwyno darpariaeth ar gyfer llety byrddio neu ei dirwyn i ben.

(2)Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 50 o ddisgyblion neu ragor neu gan 50% neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I34Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

RHAN 4LL+CYSGOLION ARBENNIG

18LL+CMae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I36Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cynnydd yn nifer disgyblionLL+C

19(1)Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—

    (a)

    19 Ionawr 2012;

    (b)

    y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

    (c)

    dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—

    (i)

    adran 48, 59, 68 neu 72, neu

    (ii)

    adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac

  • “y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—

    (a)

    pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a

    (b)

    ym mhob achos arall, 20.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I38Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth fyrddioLL+C

20Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I40Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth anghenion [F7addysgol arbennig] [F7dysgu ychwanegol] LL+C

21Newid yn y math o anghenion [F8addysgol arbennig] [F8dysgu ychwanegol] y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.

Diwygiadau Testunol

F7Geiriau yn mhennawd Atod. 2 para. 21 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(b)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F8Geiriau yn Atod. 2 para. 21 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(b)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I42Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

RHAN 5LL+CYSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

22LL+CMae paragraffau 23 i 25 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion meithrin a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I44Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Y man addysguLL+C

23(1)Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.

(2)Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.

(3)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “man addysgu” (“teaching space”) yw unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg feithrin ac eithrio’r canlynol—

    (a)

    unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer addysg disgyblion y mae eu hanghenion addysgol yn cael eu [F9hasesu o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 a disgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan adran 324 o’r Ddeddf honno] [F9penderfynu o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a disgyblion â chynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan y Ddeddf honno];

    (b)

    unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn y fath fodd nad yw’n addas at ddibenion addysgu cyffredinol;

    (c)

    unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn bennaf ar gyfer storio cyfarpar, offer neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu;

    (d)

    unrhyw ran o ardal y mae ei hangen ar gyfer symudiad disgyblion drwy’r ardal honno ac a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben hwnnw;

  • “ehangu dros dro” (“temporary enlargement”) yw ehangu man addysgu y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

Diwygiadau Testunol

F9Geiriau yn Atod. 2 para. 23(3)(a) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(c); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I46Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Anghenion [F10addysgol arbennig] [F10dysgu ychwanegol] LL+C

24(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F11addysgol arbennig] [F11dysgu ychwanegol].

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F12addysgol arbennig] [F12dysgu ychwanegol], newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Diwygiadau Testunol

F10Geiriau yn mhwnnawd Atod. 2 para. 24 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(d)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F11Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(d)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F12Geiriau yn Atod. 2 para. 24(2) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(d)(iii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I48Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaithLL+C

25(1)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

(2)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 2 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I50Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

RHAN 6LL+CATODOL

Y pŵer i ddiwygioLL+C

26(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen hon.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 3 o’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I52Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)