3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.
(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
(3)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(4)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(6)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)