ATODLEN 3LL+CGWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 2LL+CDARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL

Darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolirLL+C

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 3(2), (3), (4) neu (5) ddarparu safle i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i’r awdurdod drosglwyddo ei fuddiant yn y safle ac yn unrhyw adeiladau sydd ar y safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol neu (yn absenoldeb corff o’r fath) i’r corff llywodraethu, i’w ddal gan y corff hwnnw at y dibenion perthnasol.

(3)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud o dan y paragraff hwn, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei wneud i bersonau (“y trosglwyddeion”) y mae ganddynt unrhyw swm, neu sydd â hawl ganddynt iddo neu y gellid bod ganddynt yr hawl iddo, sef swm sy’n cynrychioli’r enillion ar werthiant mangre arall a gafodd ei defnyddio at ddibenion yr ysgol.

(6)Rhaid i’r trosglwyddeion hysbysu’r awdurdod lleol bod is-baragraff (5)(b) yn gymwys iddynt a rhaid iddynt hwy neu eu holynwyr dalu i’r awdurdod lleol gymaint o’r swm hwnnw, gan roi sylw i werth y buddiant a drosglwyddwyd, ag y benderfynir ei fod yn gyfiawn, naill ai drwy gytundeb rhyngddynt hwy a’r awdurdod neu, yn niffyg cytundeb, gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-baragraff (5)(b) mae’r cyfeiriad at enillion ar werthiant mangre arall yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—

(a)cydnabyddiaeth am greu neu am waredu unrhyw fath o fuddiant mewn mangre arall, gan gynnwys rhent, a

(b)unrhyw log sydd wedi cronni mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r fath.

(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (6) i’w drin at ddibenion adran 14 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 (sy’n ymwneud â gwerthu neu gyfnewid tir sy’n cael ei ddal ar ymddiried at ddibenion ysgol) fel swm a ddefnyddir at brynu safle i’r ysgol.

(9)Caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan is-baragraff (6) mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth sydd wedi codi o dan adran 1 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 (hawl dychweliad yn cael ei disodli gan ymddiried i werthu) —

(a)os gwneir y penderfyniad gan Weinidogion Cymru (a dim ond bryd hynny), a

(b)maent wedi eu bodloni (a dim ond bryd hynny) bod camau wedi eu cymryd i amddiffyn buddiannau’r buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth.

(10)Mae is-baragraff (6) yn gymwys at ddibenion digolledu’r awdurdod a hysbysir o dan yr is-baragraff hwnnw mewn perthynas yn unig â’r rhan honno o’r swm a grybwyllir yn isbaragraff (5)(b) (os oes un) sy’n weddill ar ôl cymhwyso paragraffau 1 i 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gwaredu tir - ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig) i’r swm hwnnw.

(11)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “y dibenion perthnasol” (“the relevant purposes”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff sefydledig ysgol, dibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto, neu

    (b)

    mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff llywodraethu ysgol, dibenion yr ysgol;

  • nid yw “safle” (“site”) yn cynnwys caeau chwarae ond fel arall mae’n cynnwys unrhyw safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol o dan sylw.