xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CGWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3LL+CTROSGLWYDDO TIR

Newid o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a reolirLL+C

12(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)