ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

I1I213Newid o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a reolir

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

a

pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a

b

o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

2

Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.