13(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)