Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Newid o ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ysgol gymunedolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

19(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)