xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CGWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3LL+CTROSGLWYDDO TIR

Newid o ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyirLL+C

23(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig arall yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac i’w freinio ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)