ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
24Newid o ysgol wirfoddol a reolir i ysgol gymunedol
1
Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
2
Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
3
Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.