ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
I1I230Eithrio rhag trosglwyddo
Nid oes dim ym mharagraffau 10 i 25 yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff neu freinio ynddo—
a
unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithrir o dan baragraff 31 neu 32,
b
unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,
c
unrhyw rwymedigaeth gan awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn cysylltiad â phrifswm unrhyw fenthyciad neu logau arno, neu
d
unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.