ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

31Eithrio rhag trosglwyddo

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys os ceir y canlynol cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori—

a

bod y trosglwyddai a’r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno’n ysgrifenedig y dylid eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad paragraffau 10 i 25, a

b

bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ysgrifenedig i’r cytundeb.

2

Mae’r tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n ymwneud ag ef) i’w eithrio felly.