ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

I1I233Eithrio rhag trosglwyddo

1

Caiff cytundeb o dan baragraff 31 ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol ar y cyfryw delerau ag a bennir neu a ddyfernir yn unol â’r cytundeb.

2

O ran cyfarwyddiadau o dan baragraff 32—

a

cânt roi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau y gellid bod wedi eu rhoi neu eu gosod drwy gytundeb o dan baragraff 31, a

b

maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu cynnwys mewn cytundeb o’r fath.