Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Cyfyngiadau ar waredu neu ddefnyddio tirLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

35(1)At ddibenion paragraffau 36 a 37 mae’r weithdrefn i ddod yn ysgol mewn categori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r weithdrefn wedi ei dechrau gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a heb gael ei therfynu.

(2)Bernir bod y weithdrefn wedi ei dechrau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y mae cynnig ynddo i ystyried cael penderfyniad i ymgynghori ynghylch cynigion i newid categori.

(3)Bernir bod y weithdrefn wedi ei therfynu—

(a)os na chynhelir y cyfarfod,

(b)os cynhelir y cyfarfod ond na roddir y cynnig gerbron neu, er bod y cynnig wedi ei roi gerbron, nid yw’r penderfyniad yn cael ei basio,

(c)os na wneir yr ymgynghoriad yn unol ag adran 48,

(d)os na chaiff y cynigion y gwnaed yr ymgynghoriad mewn cysylltiad â hwy eu cyhoeddi yn unol ag adran 48,

(e)os caiff y cynigion eu gwrthod gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 neu gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu os cânt eu tynnu’n ôl neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu peidio â’u gweithredu o dan adran 53, neu

(f)ar ddyddiad gweithredu’r cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)