Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Cyfyngiadau ar waredu neu ddefnyddio tirLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

37(1)Tra bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, gymryd unrhyw gamau mewn perthynas ag unrhyw dir yr awdurdod sy’n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol sy’n peri bod y tir i unrhyw raddau yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly.

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys yn achos unrhyw ysgol—

(a)os yw cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu eu gweithredu, a

(b)os yw awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd camau yn groes i is-baragraff (1).

(3)Mae’r darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo yn cael effaith fel pe bai’r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu, wedi cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion y cafodd ei ddefnyddio neu ei ddal pan ddechreuwyd y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo” yw darpariaethau’r Atodlen hon ac adran 198 of Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac Atodlen 10 iddi, a

(b)mae’r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys perchnogi eiddo at unrhyw ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 37 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)