xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CGWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 4LL+CATODOL

Darpariaethau trosiannol - derbyniadauLL+C

39(1)Pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (trefniadau derbyn) yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu.

(2)Pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn dod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 39 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)