ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
6Effaith trosglwyddo
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
a
pan fo tir yn cael ei drosglwyddo a’i freinio mewn corff yn unol â’r Atodlen hon, a
b
pan fo’r trosglwyddwr yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.
2
Caiff yr hawliau neu’r rhwymedigaethau hynny hefyd eu trosglwyddo i’r corff hwnnw, ac yn rhinwedd yr Atodlen hon, eu breinio ynddo.