ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 2TROSGLWYDDO STAFF
I1I43Newid i ysgol wirfoddol a gynorthwyir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
2
Mae’r contract cyflogaeth rhwng P a’r awdurdod lleol yn cael effaith o’r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng P a’r corff llywodraethu.
3
Caiff holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef eu trosglwyddo i’r corff llywodraethu ar y dyddiad gweithredu.
4
Mae unrhyw beth a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r contract hwnnw neu â P i’w drin o’r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef.
5
Yn y paragraff hwn, “P” yw person sydd—
a
yn union cyn y dyddiad gweithredu yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol i weithio dim ond yn yr ysgol o dan sylw, neu
b
cyn y dyddiad gweithredu, wedi ei benodi gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol o’r dyddiad gweithredu ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach.
6
Ond nid yw cyfeiriad at “P” yn cynnwys—
a
person y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu, neu
b
person a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol dim ond mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl gan gyflogai i derfynu’r contract os gwneir (ar wahân i newid cyflogwr) newid sylweddol sy’n niweidiol i amodau gwaith y cyflogai.
I2I54Newid i ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir.
2
Mae’r contract cyflogaeth rhwng P a’r corff llywodraethu yn cael effaith o’r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng P a’r awdurdod lleol.
3
Caiff holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef eu trosglwyddo i’r awdurdod lleol ar y dyddiad gweithredu.
4
Mae unrhyw beth a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r contract hwnnw neu â P i’w drin o’r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas ag ef.
5
Yn y paragraff hwn, “P” yw person sydd—
a
yn union cyn y dyddiad gweithredu yn gyflogedig gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o dan sylw, neu
b
cyn y dyddiad gweithredu, wedi ei benodi gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o’r dyddiad gweithredu ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach.
6
Ond nid yw “P” yn cynnwys person y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl gan gyflogai i derfynu’r contract os gwneir (ar wahân i newid cyflogwr) newid sylweddol sy’n niweidiol i amodau gwaith y cyflogai.
I3I65Newid i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
2
Mae is-baragraff (3) yn gymwys os bydd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a reolir neu’r ysgol sefydledig yn mwynhau hawliau a roddwyd gan adran 59(2) i (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn rhinwedd adran 60(2) o’r Ddeddf honno.
3
Mae’r athro hwnnw neu’r athrawes honno i barhau i fwynhau‘r hawliau hynny tra bydd yn gyflogedig fel athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir.