ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 3 (TREFNIADAETH YSGOL)

I1I226Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

1

Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 44 (llwybrau dysgu: dehongli) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.