ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 3 (TREFNIADAETH YSGOL)

I1I229Mesur Addysg (Cymru) 2011

1

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 8 (dehongli Rhan 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.

3

Yn adran 13(b) (corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau) yn lle’r geiriau o “ym Mhennod 2” i’r diwedd rhodder “yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)”.

4

Hepgorer adran 20 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005).

5

Yn adran 21(1) (dehongli Pennod 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol sefydledig arbennig”.

6

Hepgorer adrannau 26 i 30 (ysgolion sefydledig).