xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 3 (TREFNIADAETH YSGOL)

Mesur Addysg (Cymru) 2011LL+C

29(1)Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 8 (dehongli Rhan 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.

(3)Yn adran 13(b) (corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau) yn lle’r geiriau o “ym Mhennod 2” i’r diwedd rhodder “yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)”.

(4)Hepgorer adran 20 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005).

(5)Yn adran 21(1) (dehongli Pennod 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol sefydledig arbennig”.

(6)Hepgorer adrannau 26 i 30 (ysgolion sefydledig).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 5 para. 29 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)