xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)

Deddf Addysg 2005LL+C

8(1)Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 45 (y pŵer i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau).

(3)Yn adran 114(8) (cyflenwi gwybodaeth am weithlu ysgol)—

(a)hepgorer “and” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)ym mharagraff (b) ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;

(c)ar ôl paragraff (b) mewnosoder— and

(c)in relation to Wales, provide that Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) is to have effect as if—

(i)references to a local authority included a reference to a prescribed person,

(ii)duties imposed by virtue of this section were education functions,

(iii)the only relevant ground for intervention were ground 1 in section 21, and

(iv)sections 24 to 27 did not apply.

(4)Yn Atodlen 9 (diwygiadau mewn perthynas ag arolygu ysgol) hepgorer paragraffau 14 i 20.

(5)Gweler hefyd y diwygiad a wnaed gan baragraff 22(2)(b) o’r Atodlen hon i adran 28(4)(c) o Ddeddf Addysg 2005 (sy’n rhannol o ganlyniad i Ran 2 o’r Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)