ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 3DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 5 (DYLETSWYDDAU AMRYWIOL YSGOLION)

31Deddf Addysg 1996 a gorchmynion a wneir odani

1

Yn adran 512A(6) o Ddeddf Addysg 1996 (trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 512 i gyrff llywodraethu), hepgorer o “and such” i’r diwedd.

2

3

32Deddf Addysg 2002

Yn Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 110.

33Deddf Addysg 2005

Yn adran 103 o o Ddeddf Addysg 2005 (cyfarfodydd blynyddol rhieni) hepgorer is-adran (2) a (3)(a)(ii).

34Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

1

Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer adran 58 (cod ymarfer o ran y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir).

3

Yn adran 87 (y pŵer i godi tâl am ddarparu prydau bwyd)—

a

yn is-adran (1), hepgorer paragraff (b);

b

yn is-adran (2), hepgorer paragraff (b).

35Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

Yn adran 8(2)(b) o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (sy’n darparu i isadran (4A) newydd gael ei mewnosod yn adran 512 o Ddeddf Addysg 1996), yn lle “7(5)” rhodder “4”.

36Deddf Addysg 2011

Yn adran 35 o Ddeddf Addysg 2011 (dyletswyddau mewn perthynas â phrydau bwyd)—

a

yn is-adran (2) hepgorer paragraff (b);

b

yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b).