RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

11Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

1

Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol,

b

os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio, ac

c

os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r awdurdod lleol wedi cymryd, ac nad yw’n debyg o gymryd, camau digonol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 10 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

b

os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

4

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddynt reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

5

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

b

os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (6).

6

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (5)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

7

Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

8

Os yw Gweinidogion Cymru’n credu bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

9

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8) mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, rhaid iddynt anfon copi yr un pryd at—

a

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

b

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

10

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).

11

Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.