Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y'i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C2Rhn. 2 Pnd. 1: rhoddwyd pŵer i addasu (20.2.2014) gan 2011 nawm 7 a. 0018(01)(a) (wedi ei amnewid (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(3)(a); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C3Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(12) (fel e'i amnewid (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C4Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1988 c. 40, a. 219(3A) (fel y'i mewnosodwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 1(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C5Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2002 c. 32, a. 34(7) (fel y'i diwygiwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 6(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
C6Rhn. 2 Pnd. 1 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(a) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.
(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.
(8)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—
(a)ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a
(b)os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.
(9)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(10)O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—
(a)rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a
(b)daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 13 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3)