RHAN 2SAFONAU

C6C8C2C10C1C4C5C3C9C7C11C12C13PENNOD 2YMYRRYD MEWN AWDURDODAU LLEOL

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
C6

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(3) (fel y’i mewnosodwyd ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C8

Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2006 c. 21, a. 29 (fel e'i amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 10; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C2

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 560(6) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(7); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C10

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C1

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 484(7) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C4

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(13) (fel e'i amnewid (C.) ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C5

Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(1)(2) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C3

Rhn. 2 Pnd. 2 excluded (20.2.2014) gan 1996 c. 56, Atod. 1 para. 6(4) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(8); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C9

Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(b) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C7

Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2005 c. 18, a. 114(8)(c) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 8(3)(c); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C12

Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (20.2.2014) gan 1998 c. 31 s. 89C(2)(a) (wedi ei amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 anaw 1, a. 100(4), Atod. 5 para. 4(5); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C13

Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (20.2.2014) gan 1998 c. 31 s. 89C(2)(a) (wedi ei amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 5(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

Pwerau ymyrryd

I1I2C6C8C2C10C1C4C5C3C9C723C6C8C2C10C1C4C5C3C9C7Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

1

Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd o dan y Bennod hon â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

b

os yw’r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

a

bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon, neu

b

bod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

4

Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

5

Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at yr awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

6

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5).

7

Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.