xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 1LL+CCOD TREFNIADAETH YSGOLION

38Cod Trefniadaeth YsgolionLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod am drefniadaeth ysgolion (“y Cod”), a chaniateir iddynt ei ddiwygio o dro i dro.

(2)Mae’r Cod i gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r personau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdodau lleol;

(c)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(d)personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(3)Caiff y Cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill.

(4)Rhaid i’r personau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2), wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a gynhwysir yn y Cod, a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gynhwysir ynddo.

(5)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (4) yn gymwys hefyd i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)awdurdod lleol,

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu

(d)personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y Cod sydd mewn grym am y tro.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar wahân (drwy gyfrwng codau ar wahân) mewn perthynas â swyddogaethau gwahanol o dan y Rhan hon sy’n perthyn i’r personau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

(8)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “y Cod” neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon yn cael effaith, mewn perthynas â chod ar wahân, fel cyfeiriadau at y cod hwnnw neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon y mae’n ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 38 mewn grym ar 26.4.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1000, ergl. 2(a)

I3A. 38 mewn grym ar 19.7.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1800, ergl. 2