Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

42Cynigion i newid ysgolion prif ffrwdLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—

(a)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol;

(b)gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig;

(c)i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 10, 11, 12 neu 13 o Atodlen 2 (cynyddu a lleihau capasiti) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig os nad oes gan yr ysgol honno gymeriad crefyddol;

(d)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol feithrin a gynhelir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 42 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)