RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt

I1I250Eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru

1

Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon—

a

os yw’r cynigion yn effeithio ar addysg chweched dosbarth, neu

b

os yw’r cynigion wedi eu gwneud gan gynigydd ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol ac os yw gwrthwynebiad wedi ei wneud gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag adran 49(2) ac os nad yw wedi ei dynnu yn ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

2

Mae cynigion yn effeithio ar addysg chweched dosbarth—

a

os ydynt yn gynigion i sefydlu neu derfynu ysgol sy’n darparu addysg sy’n addas at anghenion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol yn unig, neu

b

os ydynt yn gynigion i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i anghenion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

3

Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r cynigydd anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (4) at Weinidogion Cymru cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

4

Y dogfennau yw’r canlynol—

a

yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 48(5),

b

y cynigion cyhoeddedig,

c

unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 49(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a

d

pan fo gwrthwynebiadau wedi eu gwneud felly (a heb gael eu tynnu’n ôl), yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 49(3).

5

Pan fo angen i gynigion gael cymeradwyaeth o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru—

a

gwrthod y cynigion,

b

eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu

c

eu cymeradwyo gydag addasiadau—

i

ar ôl cael cydsyniad y cynigydd â’r addasiadau, a

ii

(ac eithrio os y cynigydd yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, yn ôl y digwydd), ar ôl ymgynghori â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi a’r awdurdod lleol perthnasol.

6

Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

7

Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y cynigydd, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (6) i ddigwydd.

8

Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y cynigydd i Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

9

Nid yw’n ofynnol i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.

10

Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.